Skip to content ↓
Eng

Gwerthoedd yr Ysgol

Datganiad o Genhadaeth: 

Tyfu Dysgu Llwyddo

Ein dyhead yw:

Y bydd plant, rhieni, staff a llywodraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd i greu ysgol hapus, gynhyrchiol a symbylol.”

Nod yr Ysgol

Ein nod yw sicrhau bod yr holl blant, beth bynnag eu gallu, yn cyrraedd eu llawn potensial mewn awyrgylch hapus a diogel.

Ethos yr Ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Glan Ceubal yn gymuned ddiogel, ofalgar lle bydd pob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni i’w botensial llawn a datblygu’n aelod gwerthfawr o’r gymdeithas.

Amcanion yr Ysgol

Yn Ysgol Gymraeg Glan Ceubal ein bwriad yw:

  • hybu rhagoriaeth
  • gwerthfawrogi cyfraniad yr unigolyn
  • datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol
  •  hybu datblygiad esthetig, ysbrydol, moesol a chymdeithasol
  • datblygu hunanddisgyblaeth
  • addysgu’r plant i werthfawrogi a pharchu’r hunan ac eraill
  • datblygu datblygiad sgiliau
  • cael hwyl wrth ddysgu!