Skip to content ↓
Eng

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Proses ADY Ysgol Glan Ceubal 

Ein Gweledigaeth

Yma yn Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr at sicrhau bod pob disgybl yn medru llwyddo a chyflawni mewn amgylchedd gyda darpariaeth gyfoethog sy’n trechu rhwystrau ac yn galluogi dysgu ac addysgu effeithiol sydd wedi ei bersonoli i anghenion penodol pob disgybl.

Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y plant wrth gynnal safonau uchel o wahaniaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn gosod targedau uchelgeisiol ac yn dysgu’r disgyblion i osod safonau uchel iddyn nhw’u hun hefyd.

Yn ôl Pedwar Diben y Cwricwlwm newydd, rydym yn annog disgyblion i fod yn fentrus ac yn greadigol, yn egwyddorol ac yn wybodus, yn iach a hyderus, ac yn uchelgeisiol a galluog.

Rydym yn cydnabod bod bob plentyn yn unigryw, a bod gan ran fwyaf o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, neu yn eu profi rhywbryd yn ystod eu bywyd ysgol. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn darparu amgylchedd cynhwysol a gofalgar ar gyfer pob disgybl.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol Newydd

O fis Ionawr 2022, mae Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu ac Addysg Ychwanegol (Cymru) (ALNET) yn disodli'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) cyfredol gyda system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol cyffredinol, statudol (CDU) ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag ADY.

Bydd gofyn i bob ysgol yng Nghymru wneud newidiadau i'w systemau cyfredol. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Caerdydd i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r Ddeddf ALNET newydd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru - beth sy'n digwydd?

I wylio'r ffilm hwn yn Saesneg - ewch i https://youtu.be/00gHqzWowPghttps://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cyflwyniad

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Canllaw i Rieni

Animeiddiadau Rhieni Dysgwyr ADY

Gwybodaeth ychwanegol 

Cymorth i rieni

https://www.cardifffamilies.co.uk/

Additional Learning Needs (ALN) (cardiff.gov.uk)

Dyslecsia 

Credir mai 10% o’r boblogaeth yn derbyn diagnosis o ddyslecsia. Er hyn, mae’n aml yn cael ei gam-ddeall. Mae dyslecsia yn wahaniaeth niwrolegol sydd yn medru cael effaith mawr ar addysg plentyn, a’u bywyd o ddydd i ddydd. Mae profiad dyslecsia pawb yn wahanol. Mae’n gallu amrywio o ran difrifoldeb, ac mae’n gallu bod yn rhan o anghenion dysgu ychwanegol arall. Yn aml, mae’n treiddio drwy’r teulu.

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn dioddef o ddyslecsia, mae croeso i chi ddod i siarad gyda'r athro dosbarth.

 

Os ydych eisiau trafod mwy am eich plentyn ag ADY, cysylltwch a Miss C Tobias.

TobiasC3@hwbcymru.net